Newyddion
·
Ar 2
Rhagfyr, cyhoeddodd Y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad:
Gwaith Craffu Blynyddol ar Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd
Cyffredinol Cymru (PDF, 2MB)
·
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad
Craffu ar Amcangyfrifon Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar
gyfer 2020-2021 (PDF, 533KB) ar 20 Tachwedd 2019
·
Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad ar y
Goblygiadau ariannol y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac
Ymgysylltu) (Cymru) (PDF, 1MB)
·
Ar 12
Tachwedd, cyhoeddodd Y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad:
Goblygiadau ariannol Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau)
(Cymru) (PDF, 365KB)
·
Mae'r
Pwyllgor wedi cyhoeddi adroddiad ar ei
Ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru (PDF,
1015KB)
·
Mae’r Pwyllgor Cyllid wedi cyhoeddi ei adroddiad:
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2020-21 (PDF,
938KB)
Dilynwch ni ar Twitter: @SeneddCyllid
Cylch gwaith
Sefydlwyd y Pwyllgor ar
22 Mehefin 2016. Mae cylch gwaith y Pwyllgor, a ddiwygiwyd yn
dilyn penderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar
13 Tachwedd 2019, fel a ganlyn:
a) cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir
yn
Rheolau Sefydlog 18.10, 18.11, 18A.2 (iv) a (v), 19 ac 20 o
Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
b) o dan Reolau Sefydlog 19 ac 20, mae
cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys ystyried unrhyw adroddiad neu
ddogfen a osodir gerbron y Cynulliad mewn perthynas â'r
defnydd o adnoddau, neu wariant o Gronfa Gyfunol Cymru, gan gynnwys
ymgymryd â
gwaith craffu ar gyllideb cyrff a ariennir yn uniongyrchol o Gronfa
Gyfunol Cymru;
c) o dan Reolau Sefydlog 18.10 a 18.11, mae
cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys goruchwylio'r gwaith o
lywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru, fel y nodir yn
Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013;
d) o dan Reol Sefydlog 18A.2 (iv) a (v), i arfer
swyddogaethau cyllidebol mewn perthynas ag
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
e) bod y Pwyllgor hefyd yn ystyried unrhyw gynigion
ar gyfer datganoli pwerau ariannol i Gymru fel rhan o'i
gyfrifoldebau, a'r cynnydd a wnaed wrth wneud hynny;
f) gall y Pwyllgor hefyd graffu ar ddeddfwriaeth a
gyflwynir i'r Cynulliad.
Trawsgrifiadau
Ymholiadau Cyfredol
Gwaith wedi’i gwblhau gan y pwyllgor
Cyllid
Dolenni cyflym
Adran-Aelodau






