Agenda item

Adroddiad 2014-15 ISA 260 (gan gynnwys treuliau’r Aelodau)

Cofnodion:

ACARAC (29) Papur 4 – Adroddiad ISA 260 2013-14

6.1        Cyflwynodd Ann-Marie adroddiad ar Safon Archwilio Ryngwladol (ISA) 260. Cadarnhaodd eu bod wedi cael yr holl ddogfennau gan Gomisiwn y Cynulliad ar amser a rhoddodd ddiolch i dîm Nicola am eu cymorth.  Dywedodd wrth y pwyllgor fod y cyfrifon yn ddiduedd, yn deg ac yn glir. Dyma’r prif bwyntiau a nodwyd:

·           Newid yn y polisi cyfrifyddu ar gyfer asedau TGCh. Mae SAC yn dal o'r farn bod y newid o ran trin asedau TGCh yn gyfystyr â newid i’r polisi cyfrifyddu, sy’n golygu bod angen addasiad blwyddyn flaenorol. Mae’r tîm rheoli o’r farn nad oes angen addasiad cyfnod blaenorol, yn unol ag ISA8.

·           Darpariaethau dadfeiliad ar gyfer eiddo ar brydles. 

·           Cyfraniadau pensiwn staff cymorth Aelodau'r Cynulliad.

·           Cyfrifyddu a chostau Aelodau'r Cynulliad – cronni gwyliau staff cymorth.

6.2        Diolchodd y Cadeirydd i SAC am dynnu sylw at y pwyntiau hyn. O ran y pwynt cyntaf, cytunodd y Pwyllgor nad yw’r newid o ran trin asedau TGCh yn gyfystyr â newid i’r polisi cyfrifyddu ac roedd yn fodlon i’r cyfrifon aros yr un fath. 

6.3        O ran y pwynt ynghylch dadfeiliad, rhoddodd Nicola ragor o wybodaeth i ategu barn y rheolwyr, gan gadarnhau bod y tîm Rheoli Ystadau a Chyfleusterau wedi llunio rhaglen cynnal a chadw 10 mlynedd dreigl ar gyfer  Hywel a bod y dyraniad ar gyfer gwelliannau mewn cyllidebau cyfredol ac yn y dyfodol yn parhau i fod yn addas. Er mwyn rhoi sicrwydd ychwanegol, byddai Nicola yn ystyried awgrym SAC o gael barn annibynnol ar gyflwr a gofynion cynnal a chadw Tŷ  Hywel.  Roedd y pwyllgor yn cefnogi penderfyniad y rheolwyr.

6.4        O ran cyfraniadau pensiwn, rhoddodd Nicola wybod i’r pwyllgor y byddai trafodaethau pellach yn cael eu cynnal â'r Bwrdd Taliadau i sicrhau bod yr effaith yn sgil aberthu cyflog staff cymorth yn glir.   Câi’r adroddiad ar ISA 260 ei ddiwygio i ddangos mai i Aelodau'r Cynulliad, ac nid Comisiwn y Cynulliad, y talwyd yr ad-daliad gan CThEM. Roedd y pwyllgor yn cefnogi penderfyniad y rheolwyr.

6.5        O ran y pwynt olaf ynghylch cyfrifyddu a chostau Aelodau'r Cynulliad, dywedodd SAC fod eu hymholiadau hyd yma yn golygu nad oeddent yn gallu ffurfio barn glir ynghylch a fyddai’n briodol i staff cymorth allu cronni gwyliau nad oeddent wedi’u defnyddio. Gan nad oedd y symiau o dan sylw yn berthnasol, dywedodd SAC y byddai’n derbyn y drefn gyfredol ac yn ymdrin yn llawn â’r mater yn 2015-16.  Roedd aelodau'r pwyllgor yn cefnogi’r penderfyniad hwn.  Gan ymateb i ymholiad gan un o aelodau'r pwyllgor, dywedodd SAC nad oedd modd cadarnhau a fyddai angen addasiad ôl-weithredol pan fyddai’r driniaeth gyfrifyddu yn gwneud hyn oll yn glir, ond byddai’n sicrhau bod yn cael ei ddiweddaru’n gyson.

6.6        Cadarnhaodd SAC mai dim ond y Swyddog Cyfrifyddu a ddylai lofnodi’r Llythyr o Gynrychiolaeth, ac nid ACARAC hefyd.

6.7        Diolchodd y Cadeirydd i SAC am y cyflwyniad ar ISA 260, ac anogwyd Nicola, ei thîm a SAC i adolygu’r broses archwilio ar gyfer 2014-15 er mwyn osgoi’r hyn a arweiniodd at oedi.                

Camau gweithredu

-        Nicola i ystyried cael barn annibynnol ar ddadfeiliadau posibl o ran eiddo ar brydles. 

 

-        Nicola i weithio gyda SAC i gytuno ar y driniaeth gyfrifyddu o ran costau Aelodau Cynulliad. 

 

Disgwylir i'r cyfarfod nesaf gael ei gynnal ar 16 Tachwedd 2015.