Agenda item

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon

Cofnodion:

ACARAC (04-17) Papur 4 – Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon 2016-17 - papur cwmpasu

ACARAC (04-17) Papur 5 – Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon 2016-17

4.1        Croesawyd yr adroddiad blynyddol a'r datganiad o gyfrifon diwygiedig gan y Pwyllgor.  Awgrymwyd rhai meysydd y gellid eu hadolygu i roi eglurder pellach, ond ar y cyfan cafodd y gweithgarwch yn ystod cyfnod 2016-17 ei gofnodi'n dda a'i gyflwyno'n effeithiol.    

4.2        Cytunodd Nia i ystyried diwygio'r geiriad ar dudalen 109 i adlewyrchu'r ailddyraniad o adnoddau rhwng llinellau'r gyllideb tra'n aros o fewn y gyllideb gyffredinol.

4.3        Cododd Ann-Marie Harkin fater sy'n ymwneud â thaliadau cyflog a wnaed i Archwilydd Cyffredinol Cymru ym mis Mai a mis Mehefin 2016.  Oherwydd methu â dilyn y ddeddfwriaeth briodol ar gyfer gosod cyflog Archwilydd Cyffredinol Cymru, ni allai'r taliadau cyflog a oedd yn ddyledus i'r Archwilydd Cyffredinol ym mis Mai a mis Mehefin 2016 gael eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru.  Yn lle hynny, defnyddiodd Comisiwn y Cynulliad gronfeydd a bleidleisiwyd iddo at ddibenion eraill i dalu Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ystod y ddau fis.  Unig opsiwn amgen Comisiwn y Cynulliad fyddai atal taliadau cyflog i Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ystod y ddau fis.

4.4        Pwysleisiodd Ann-Marie y pleidleisir ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad yn flynyddol.  Cafodd Comisiwn y Cynulliad ei ad-dalu ar ôl hynny o Gronfa Gyfunol Cymru, felly mae'r sefyllfa wedi cael ei rheoleiddio erbyn diwedd y flwyddyn. Felly, roedd Archwilydd Cyffredinol Cymru a thîm archwilio Swyddfa Archwilio Cymru o'r farn nad oedd unrhyw amheuaeth o gyfrifon Comisiwn y Cynulliad yn bod yn gymwys (y farn ar yr adran sy'n ymwneud â chysondeb). 

4.5        Fodd bynnag, er tryloywder cynigiwyd y caiff y datgeliad o'r mater hwn ei wneud yn y datganiadau ariannol.  Gallai hyn naill ai gael ei wneud drwy Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru fel atodiad i'w Dystysgrif a'i Farn Archwilio neu gan Gomisiwn y Cynulliad yn datgelu'r mater o fewn y nodiadau i'r datganiadau ariannol.  Mynegodd tîm rheoli Comisiwn y Cynulliad y byddai'n well ganddynt i'r mater gael ei ddatgelu yn y nodiadau i'r datganiadau ariannol. 

4.6        Cytunodd Ann-Marie, mewn cyfarfod gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, y byddai'n awgrymu bod nodyn esboniadol yn cael ei ychwanegu i'r cyfrifon, yn disgrifio'r mater.  Gwnaed yn glir y byddai'r camau gweithredu y cytunwyd arnynt yn benderfyniad i Archwilydd Cyffredinol Cymru.

4.7        Cytunodd Nia i ddrafftio a dosbarthu nodyn i'w atodi i gofnodion y Pwyllgor i ddatgelu'r prosesau o ran y driniaeth o dalu cyflog Archwilydd Cyffredinol Cymru. 

4.8        Cytunodd y Pwyllgor gyda Swyddfa Archwilio Cymru yn amodol ar gytundeb gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, y byddai nodyn yn cael ei ychwanegu, ond roedd am fod yn glir nad oes unrhyw gamddefnydd o arian cyhoeddus wedi digwydd. 

4.9        Cytunodd Nia i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa a'r camau gweithredu y cytunir arnynt ar ôl iddi gael ei hysbysu o ganlyniad y cyfarfod rhwng Ann-Marie ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.

         Camau gweithredu 

-         Nia Morgan i ystyried diwygio'r geiriad ar dudalen 109 o'r AR&A i adlewyrchu'r ailddyraniad o adnoddau rhwng llinellau'r gyllideb tra'n aros o fewn y gyllideb gyffredinol.

-         Nia Morgan i ddrafftio a dosbarthu nodyn i'w atodi i gofnodion y Pwyllgor i ddatgelu'r prosesau o ran y driniaeth o dalu cyflog Archwilydd Cyffredinol Cymru. 

-         Nia Morgan i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa datgelu a thrin Cronfa Gyfunol Cymru yn dilyn archwilwyr Swyddfa Archwilio Cymru yn cwrdd ag Archwilydd Cyffredinol Cymru.