Agenda item

Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd

Cofnodion:

ACARAC (05-19) Papur 3 – Adroddiad diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd

4.1        Cyflwynodd Gareth Watts yr adroddiad a oedd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am waith Llywodraethu a Sicrwydd mewnol diweddar.

4.2        Dosbarthwyd copïau o'r adroddiadau ynglŷn â’r adolygiad o Gynllun Ymadael Gwirfoddol Comisiwn y Cynulliad ac Adolygiad Effeithiolrwydd y Bwrdd Gweithredol i aelodau'r Pwyllgor o'r cyfarfod ar 26 Medi 2019. Roedd Gareth hefyd wedi cynnal Adolygiad Effeithiolrwydd o’r Tîm Arwain ac wedi cyflwyno'r canlyniad a'r argymhellion mewn perthynas â’r rhain. Byddai Gareth yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ynghylch y cynnydd mewn perthynas â’r camau sy’n codi yn sgil y ddau adolygiad.

4.3        Arweiniodd y Tîm Llywodraethu y gwaith o lunio’r Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon am y tro cyntaf eleni. Roedd y Tîm wedi gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y timau Cyllid a Chyfathrebu, gan gwblhau drafftiau cyn y dyddiadau cau gwreiddiol a bennwyd. Roedd y rheolwyr wedi cytuno ar nifer o argymhellion ar gyfer adroddiad 2019-20, a byddai’r rhain, ynghyd ag amserlen arfaethedig, yn cael eu rhannu â’r Pwyllgor maes o law.

4.4        Roedd y Tîm Llywodraethu wedi cyfarfod â Phenaethiaid Gwasanaeth fel rhan o’r cylch o gyfarfodydd ar faterion llywodraethu blynyddol. Dyma oedd y blociau adeiladu sylfaenol ar gyfer llunio’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Trefnwyd cyfarfodydd gyda Chyfarwyddwyr i drafod unrhyw faterion a nodwyd o gyfarfodydd y Pennaeth Gwasanaeth wrth baratoi ar gyfer drafftio Datganiadau Sicrwydd.

4.5        Roedd adolygiad o’r Asedau Sefydlog wedi’i drefnu, a chytunodd Gareth i rannu'r papur cwmpasu cyn i hyn gychwyn.

4.6        Roedd adolygiad o ddull y Comisiwn o ymgysylltu â chyflenwyr Cymru wedi’i gwblhau, a byddai'r adroddiad yn cael ei rannu pan fydd yn barod. Gofynnodd Suzy a oedd unrhyw themâu neu faterion o ran yr amgylchedd/cynaliadwyedd wedi codi o'r adolygiad. Nododd Gareth fod yr adroddiad yn cyfeirio at asesiadau effaith ond cytunodd i ystyried sut y gellid trafod y rhain ymhellach.

4.7        O ran yr adolygiad sydd ar y gweill o Newidiadau Rheoli Prosiect, nodwyd, er bod y Comisiwn wedi gwneud gwelliannau sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bod hyn yn amserol o ystyried y newid strwythur a roddwyd ar waith mewn perthynas â llywodraethu prosiectau. Cytunodd y Cadeirydd i ddychwelyd at y pwnc hwn ar ôl i'r archwiliad ddod i ben. Yn y cyfamser, cytunodd Gareth i rannu’r papur cwmpasu amlinellol ag aelodau'r Pwyllgor, pan fydd ar gael.

4.8        Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor ynghylch unrhyw gynlluniau ar gyfer adolygu'r defnydd o ystâd y Cynulliad, dywedodd Arwyn Jones y byddai hyn yn rhan o'r strategaeth ymgysylltu ehangach.

4.9        Nododd Hugh Widdis fod yr adolygiad o effaith yr Adolygiad Capasiti yn mynd rhagddo. Dywedodd Gareth fod y themâu sy'n dod i'r amlwg yn gyson i raddau helaeth â'r rhai a godwyd yn ystod sesiwn dystiolaeth y Comisiwn yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyllid ar 3 Hydref. Ychwanegodd y byddai'r adolygiad hwn yn canolbwyntio ar sicrwydd o ran gwireddu manteision.

4.10     Ail-bwysleisiodd Hugh pa mor bwysig yw cynnal archwiliadau o feysydd y Gyfarwyddiaeth Busnes, lle bo hynny’n briodol. Cytunodd Gareth, a byddai'n gweithio gyda Chyfarwyddwr Busnes y Cynulliad i ddatblygu cwmpas gwaith archwilio yn y dyfodol.

Camau i’w cymryd:

·         Rhoi diweddariad ar y cynnydd mewn perthynas â’r camau sy'n codi o adolygiadau'r Bwrdd Gweithredol a'r Tîm Arwain

·         Rhannu’r papurau cwmpasu ar gyfer yr archwiliadau o’r Asedau Sefydlog a’r adolygiad o Newidiadau Rheoli Prosiect.