Digwyddiad
ARDDANGOSFA: Ar Gyfer y Bobl
Dyddiad: Dydd Mercher 14 Rhagfyr 2016 i ddydd Gwener 13 Ionawr 2017
Lleoliad: Senedd Oriel Gallery
Disgrifiad: Mae pensaernïaeth da yn cael effaith gadarnhaol ar brofiad pobl ac yn creu mannau cyfforddus sydd yn hawdd i'w defnyddio ac yn cyfrannu tuag at les. Mae'r arddangosfa hon yn arddangos lluniau o adeiladau yng Nghymru a gafodd eu cydnabod gan reithgorau wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol a Chymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru (RSAW), yn 2016. Gwahoddwyd ffotograffydd James Morris i ymateb i'r prosiectau hyn gan ddefnyddio'r thema 'Ar Gyfer y Bobl’ ac mae ei ffotograffau yn cipio'r manteision o fannau sydd wedi'u cynllunio'n dda ar gyfer pobl Cymru. Mae delweddau fawr iawn yn siarad drostynt eu hunain, gan ganiatáu cipolwg o ddefnyddwyr a pherchnogion yr adeilad mewn sefyllfaoedd bob dydd yn eu hamgylchedd newydd. Comisiynwyd yr arddangosfa gan yr Eisteddfod, Comisiwn Dylunio Cymru a RSAW yn gweithio mewn partneriaeth.
Agored i’r cyhoedd: Ydy
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr