Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Derbyniad a Lansiad Cenedl Arloesi

Dyddiad: Dydd Mercher 29 Mawrth 2017

Amser: 18.00 - 19.00

Lleoliad: Senedd

Disgrifiad: Bydd y derbyniad yn rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiad newydd gan CCAUC, sef Cenedl Arloesi, a fydd yn cyflwyno cyfres o astudiaethau achos yn tynnu sylw at amrywiaeth y cydweithrediadau presennol rhwng prifysgolion a busnesau sy’n bwysig i economi Cymru. Bydd y digwyddiad yn agored i ACau, arweinwyr y brifysgol ac ymarferwyr arloesi, a chynrychiolwyr busnesau preifat a mentrau cyhoeddus. Byddwn yn rhoi cyfle i glywed gan bartneriaid mewn prosiectau cydweithredol. Rydym wedi gwahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth i ddweud gair ar ddechrau’r derbyniad. Bydd gan y siaradwyr tua 20 munud, ac yna bydd cyfle i gynrychiolwyr gwrdd â hen gysylltiadau, gwneud cysylltiadau newydd a chael clywed mwy am bartneriaethau rhwng y brifysgol a diwydiant (yn ystod y 40 munud sy’n weddill, gyda lluniaeth). Bydd y digwyddiad a’r cyhoeddiad o ddiddordeb i Aelodau’r Cynulliad a swyddogion sydd â rôl o ran llunio strategaethau ynghylch prifysgolion, diwydiant, yr economi a sgiliau.

Agored i’r cyhoedd: Cynhelir y digwyddiad y tu allan i oriau agor arferol, felly bydd presenoldeb drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr