Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Dathlu gwaith TUC Cymru a’r Brifysgol Agored yng Nghymru

Dyddiad: Dydd Mawrth 9 Mai 2017

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Senedd

Disgrifiad: Sesiwn amser cinio i ddathlu’r ffaith bod TUC Cymru a’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth yn llwyddiannus ers deng mlynedd ar ôl iddynt lofnodi Memorandwm Dealltwriaeth ym mis Ebrill 2006. Bydd yn gyfle i ddathlu ac arddangos deng mlynedd o weithio ar y cyd i roi cyfleoedd dysgu i’r rhai nad ydynt yn ddysgwyr traddodiadol, a hynny o dan arweiniad yr undebau. Bydd dysgwyr yn sôn am eu profiadau, a bydd siaradwyr hefyd o’r Brifysgol Agored yng Nghymru, TUC Cymru a’r undebau. Bydd cinio a lluniaeth ar gael.

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr