Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Codi ymwybyddiaeth o epilepsi

Dyddiad: Dydd Mawrth 16 Mai 2017

Amser: 11.30 - 13.30

Lleoliad: Senedd

Disgrifiad: Cynhelir ein digwyddiad i godi ymwybyddiaeth o epilepsi yn y Senedd ddydd Mawrth 16 Mai 2017 a Mark Isherwood AC sy’n ei noddi. Bob blwyddyn, byddwn yn lobïo Aelodau’r Cynulliad i godi ymwybyddiaeth o bobl sydd ag epilepsi ac i alw am wasanaethau hygyrch sy’n caniatáu iddynt gael y triniaethau a’r cymorth gorau. Rydym yn estyn gwahoddiad i unigolion a theuluoedd y mae epilepsi’n effeithio arnynt i ddod draw i ddweud eu dweud, i ofyn cwestiynau ac i rannu profiadau. Rydym hefyd yn estyn gwahoddiad i’n Haelodau lleol gymryd rhan. Byddwn yn casglu gwybodaeth i’w chyflwyno i’n Haelodau a chomisiynwyr y Byrddau Iechyd Lleol. Os hoffech ddod draw, cael rhagor o wybodaeth neu roi gwybod inni am faterion yr hoffech inni eu codi, cysylltwch â ni: info@epilepsy.wales neu 0800 228 9016

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr