Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Cymru Di-Garbon: Sut allwn ni ymateb i Newid Hinsawdd?

Dyddiad: Dydd Mawrth 4 Ebrill 2017

Amser: 18.30 - 20.00

Lleoliad: Dosbarth Addysg, Tŷ Hywel

Disgrifiad: Mewn cytundeb hinsawdd a sicrhawyd yn Paris ym Mis Rhagfyr 2015, ymrwymodd arweinwyr byd-eang i gadw cynnydd tymheredd byd-eang rhwng 1.5 a 2 radd uwchben lefelau cyn-ddiwydiannol. Cytunwyd bydd y Byd yn cyrraedd sero carbon erbyn canol y ganrif. Mi fydd Ganolfan y Dechnoleg Amgen (CAT), a leolwyd yng Nghymru, yn cyflwyno ymchwil o’r radd flaenaf yn dangos sut allwn gyrraedd Prydain di-garbon gan ddefnyddio’r dechnoleg sydd ar gael heddiw. Yn ogystal, mi fydd y digwyddiad yn nodi’r lansiad Cymreig o adolygiad ymchwil diweddaraf CAT sef – Zero Carbon Britain: Making it Happen, sydd yn ymchwilio’r rhwystrau rhag cyflawni cymdeithas di-garbon a sut allwn ni oresgyn y rhwystrau hynny. Mae’r adroddiad yn amlinellu nifer o enghreifftiau arloesol o fentrau di-garbon ar draws cymunedau lleol wrth ffocysu ar sut all y mentrau hyn dyfu i gwrdd ag anghenion gwyddoniaeth yr hinsawdd. Yn dilyn hyn, cawn drafodaeth ar sut all gwaith CAT gefnogi gweithgareddau ar lefel gwladol a sut all Aelodau Cynulliad cydweithio i sicrhau gall Gymru arwain y ffordd wrth frwydro yn erbyn newid hinsawdd.

Agored i’r cyhoedd: Bydd y digwyddiad yn cymryd lle tu allan i ein horiau agor arferol felly bydd presenoldeb drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr