Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Leonard Cheshire Disability - "Tour de Cymru"

Dyddiad: Dydd Iau 22 Mehefin 2017

Amser: 09.00 - 16.30

Lleoliad: Pierhead

Disgrifiad: Taith feicio statig 'Tour de Cymru’r Senedd', o ddydd Mercher 21 Mehefin i ddydd Iau 22 Mehefin 2017. Y nod yw beicio 350 milltir, sef pellter y 'Tour de Cymru' go iawn sy'n digwydd ym mis Mai, gyda 10 o feicwyr amatur yn beicio 350 o filltiroedd drwy dirwedd amrywiol Cymru: o Ynys Môn i Lanhenwg yng Ngwent. Bydd y daith yn amlygu gwerth chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol i bobl anabl yng Nghymru. Mae'r holl arian a godir yn mynd yn uniongyrchol at y bobl y mae Leonard Cheshire Disability yn eu cefnogi ledled Cymru, i dalu am eitemau fel cit chwaraeon, gwersi dawnsio cadeiriau olwyn, offer ffisiotherapi, a gweithgareddau chwaraeon ar gyfer pobl ag anableddau sy'n defnyddio ein gwasanaethau. Os hoffech gymryd rhan, ewch i'n gwefan: justgiving.com/TourDeCymru2017

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr