Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Cynhadledd yr Is-adran Seicoleg Iechyd

Dyddiad: Dydd Mercher 6 Medi 2017

Amser: 19.00 - 20.30

Lleoliad: Pierhead

Disgrifiad: Cynhadledd Flynyddol Is-adran Seicoleg Iechyd, Cymdeithas Seicolegol Prydain 2017. Ar ôl sefydlu ein Cangen Ddatganoledig o'r Is-adran Seicoleg Iechyd yng Nghymru’n ddiweddar, rydym yn edrych ymlaen at nodi'r achlysur drwy gynnal ein cynhadledd Flynyddol yng Nghymru. Bydd hyn yn caniatáu i Seicolegwyr Iechyd o bob cwr o'r Deyrnas Unedig, ac yn fwy penodol o Gymru, i rannu canfyddiadau gwaith ymchwil arloesol ac arfer da, yn ogystal ag i amlygu sut y gallwn gyfrannu at ffurfio polisi iechyd, cyhoeddiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd, ymgynghoriadau a chymryd rhan mewn gwaith ymchwil, yn awr ac yn y dyfodol.

Agored i’r cyhoedd: Cynhelir y digwyddiad y tu allan i ein horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb drwy wahoddiad yn unig

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr