Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Cynrychiolaeth Pobl Traws a Mynegiant Rhywedd ym Miwsig Roc: gan Kate Hutchinson

Dyddiad: Dydd Mawrth 4 Gorffennaf 2017

Amser: 17.00 - 18.30

Lleoliad: Tŷ Hywel, Senedd Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1SN

Disgrifiad: Yn y cyflwyniad hwn ceir crynodeb o gynrychiolaeth pobl traws yn hanes byd roc, a thrafodir y ffordd y mae wedi helpu i newid agweddau a chodi ymwybyddiaeth. Trwy drafod arloeswyr traws fel Jayne County a Laura Jane Grace, geiriau Lou Reed a The Kinks, a’r ffordd y defnyddiai ffigurau fel David Bowie a’r New York Dolls ddelweddau a gwisg i newid ystrydebau rhywedd, bydd Kate Hutchinson yn archwilio’r ffordd y mae cerddoriaeth roc yn aml wedi rhoi llais i grwpiau lleiafrifol, gan gynnwys y gymuned drawsrywiol ac amrywiant o ran rhywedd. Mae Kate Hutchinson yn fenyw sy’n teimlo’n angerddol dros gydraddoldeb i’r gymuned LGBT+. Dros y pedair blynedd diwethaf mae hi wedi bod yn gysylltiedig â llawer o sefydliadau megis ‘Wipe Out Transphobia’, ‘All About Trans’ a’r ‘Transgender Equality Legal Initiative Mae’n falch o ddisgrifio ei hun fel ymgyrchydd traws â cheg fawr. Ar yr adegau nad yw’n ceisio achub y byd, mae hi’n mwynhau canu gitâr fas mewn cwpwl o fandiau, yn chwarae popeth o roc i jazz. Mae’n gweithio i ‘Diversity Role Models’. Mae hwn yn elusen sy’n ceisio atal bwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig mewn ysgolion.

Agored i’r cyhoedd: Bydd presenoldeb yn y digwyddiad drwy drefniant ymlaen llaw yn unig. Mae’r digwyddiad yma bellach yn llawn. Os nad ydych chi wedi cadw lle, gofynnwn i chi beidio â dod gan na fydd lle yno i chi. Diolch

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr