Digwyddiad
DIGWYDDIAD: "Mis Hanes Pobl Dduon ym Mhrydain a phrofiad iechyd meddwl pobl dduon". Siaradwyr gwadd Patrick Vernon OBE a Diverse Cymru.
Dyddiad: Dydd Llun 9 Hydref 2017
Amser: 17.30 - 20.00
Lleoliad: Tŷ Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Disgrifiad: Mae ein rhwydwaith cydraddoldeb yn y gweithle ar gyfer cydraddoldeb hiliol a threftadaeth ddiwylliannol yn cynnal y digwyddiad hwn fel rhan o ddathliadau Mis Hanes Pobl Dduon. Bydd Patrick Vernon OBE yn trafod y berthynas rhwng Mis Hanes Pobl Dduon a phrofiad pobl dduon ym Mhrydain, yn arbennig iechyd meddwl a'r tueddiadau cyfredol o ran gorgynrychiolaeth o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Yna, bydd Diverse Cymru yn darparu cyd-destun Cymreig, yn siarad am ei waith yng Nghymru, gan gynnwys y Pecyn Cymhwysedd Diwylliannol a lansiwyd ynghynt, sef pecyn cymorth i helpu staff i ryngweithio’n well â chleientiaid o wahanol ddiwylliannau sydd â salwch meddwl.
Agored i’r cyhoedd: Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim. I neilltuo lle, cysylltwch a'r Tîm Amrywiaeth drwy ebost ar Diversity@assembly.wales
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr