Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Arcadis – Prentisiaeth Adeiladu Proffesiynol
Dyddiad: Dydd Iau 5 Hydref 2017
Amser: 12.00 - 14.00
Lleoliad: Pierhead
Disgrifiad: Creodd Arcadis academi ar gyfer prentisiaethau adeiladu proffesiynol ym mis Mawrth 2012, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Nod yr academi yw dod o hyd i bobl ifanc talentog yn ne Cymru sy’n awyddus i ddatblygu gyrfa ym maes adeiladu. Ein nod yw sicrhau bod y bobl ifanc hyn yn cael cyfle i gyrraedd eu llawn potensial. Mae’r cynllun prentisiaethau hwn yn un unigryw gan ei fod yn creu llwybr i addysg yn y brifysgol ar gyfer myfyrwyr sydd wedi gadael yr ysgol, na fyddai modd iddynt fynd i’r brifysgol fel arall. Bydd y seremoni raddio yn dathlu cyflawniadau’r bobl ifanc hyn sydd wedi cwblhau dwy flynedd o brentisiaeth.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr