Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Tîm Cymru Paracheer Pom dull rhydd – Pencampwriaethau’r Byd 2017
Dyddiad: Dydd Mercher 28 Chwefror 2018
Amser: 12.00 - 13.30
Lleoliad: Senedd
Disgrifiad: Y llynedd, Tîm Pom Dull Rhydd Unedig Parathletwyr Codi Hwyl Cymru ddaeth i’r brig yn eu hadran ym Mhencampwriaeth Codi Hwyl Ryngwladol (mae’r tîm hwn yn cynnwys athletwyr anabl ac athletwyr nad ydynt yn anabl). Byddant yn perfformio’r symudiadau a enillodd y Fedal Aur iddynt yn 2017, yn ogystal â’r symudiadau y maent yn eu dysgu i baratoi at Bencampwriaeth y Byd 2018. Bydd hyn yn gyfle i weld natur gystadleuol Codi Hwyl wedi i’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol roi statws chwaraeon i’r gamp dros dro yn gynharach eleni. Rydym yn ffyddiog iawn y bydd Codi Hwyl yn tyfu fel camp yng Nghymru ac mae SportCheer Cymru yn falch o gefnogi eu timau cenedlaethol wrth iddynt osod y safon i wledydd eraill y byd.
Agored i’r cyhoedd: Ydy
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr