Digwyddiad

ARDDANGOSFA: Cofio Srebrenica

Dyddiad: Dydd Mercher 9 Mai 2018 i ddydd Sadwrn 2 Mehefin 2018

Lleoliad: Oriel y Dyfodol, y Pierhead

Disgrifiad: Mae 'WITNESS' yn arddangosfa o waith Robert McNeil, yr arlunydd a fu'n gweithio fel gwyddonydd fforensig yn Bosnia-Herzegovina ar ôl yr hil-laddiad yno. Dechreuodd ef baentio delweddau o'i brofiadau, fel ffordd o ddelio â'r hyn a welai ac er mwyn rhannu straeon rhyfel, glanhau ethnig a hil-laddiad. Yn arddangosfa bwysig i bawb o ddynolryw, mae 'WITNESS' yn dangos gallu celf i gyfathrebu profiadau sydd gyda'r mwyaf eithafol. Cefnogir yr arddangosfa hon gan Remembering Srebrenica, elusen yn y DU sy'n gweithio i fynd i'r afael â chasineb ac anoddefgarwch yn y gymdeithas heddiw trwy ddefnyddio'r gwersi a ddysgwyd o hil-laddiad Srebrenica ym 1995, lle cafodd 8,372 o ddynion a bechgyn eu llofruddio'n systematig mewn pum diwrnod. Mae'n cael ei gydnabod fel y weithred fwyaf ysgeler ar diroedd Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd. RHYBUDD: MAE’R ARDDANGOSFA HON YN CYNNWYS DELWEDDAU A ALLAI FOD YN ANADDAS I RAI YMWELWYR. OS YDYCH YN TYWYS PLANT O AMGYLCH YR ARDDANGOSFA, GOFYNNWN ICHI GADW HYN MEWN COF WRTH BENDERFYNU A YW’R DELWEDDAU A’R TESTUN YN ADDAS IDDYNT.

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr