Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Digwyddiad Bord Gron Lleisiau'r Dyfodol

Dyddiad: Dydd Iau 24 Mai 2018

Amser: 12.00 - 16.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Mae Youth Cymru yn elusen genedlaethol ym maes gwaith ieuenctid sydd â dros 80 mlynedd o brofiad yng nghyd-destun cefnogi pobl ifanc a gwaith ieuenctid ledled Cymru. Rydym yn cael ein hariannu gan y Loteri, ac rydym yn gweithio gyda Rhwydwaith Llywodraeth Agored Cymru i ymgysylltu â phobl ifanc, archwilio eu profiadau, a datblygu eu dealltwriaeth o Lywodraeth Cymru er mwyn eu galluogi i ymgysylltu'n well â'r Llywodraeth a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Yn dilyn cyfres o weithdai gyda grwpiau o bobl ifanc, bydd y digwyddiad hwn yn dod â phobl ifanc, ymarferwyr a phobl sy'n gwneud penderfyniadau at ei gilydd i drafod y gwersi y gellir eu dysgu o'r prosiect ac i nodi'r camau y gellid eu cymryd yn y dyfodol i helpu pobl ifanc ymgysylltu'n well â'r Llywodraeth.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr