Digwyddiad

DIGWYDDIAD: ‘Young people and friendships: What matters to us?’

Dyddiad: Dydd Iau 24 Mai 2018

Amser: 17.45 - 18.30

Lleoliad: Senedd

Disgrifiad: ‘Young people and friendships: What matters to us?’ Mae Cydweithrediadau CARP (Gweithredu Cymunedol ym maes Ymchwil a Pholisi), menter gymdeithasol Gymreig a chwmni cydweithredol a gaiff ei reoli gan y gweithwyr yn Abertawe, wedi bod yn cynnal prosiect ymchwil cyfranogol cyffrous iawn. Oherwydd cyllid gan raglen grant ymchwil loteri DRILL (Ymchwil Anabledd Byw'n Annibynnol a Dysgu), maent wedi hyfforddi pobl ifanc anabl (16-25 oed) ar ddulliau ymchwil gymdeithasol. Mae'r ymchwilwyr cyfoedion ifanc hyn wedi arwain prosiect ymchwil ymhlith eu cyfoedion yn casglu barn am sut y gall pobl ifanc anabl gymryd rhan lawn yn y gymdeithas a chael perthnasau ystyrlon. Yn y digwyddiad, byddant yn arddangos eu canfyddiadau, gan gynnwys ffilm fer, gyda'r llunwyr polisi a'r cynrychiolwyr gwleidyddol a all wneud i bethau ddigwydd.

Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr