Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Digwyddiad Ymwybyddiaeth o Epilepsi

Dyddiad: Dydd Mawrth 3 Gorffennaf 2018

Amser: 11.30 - 13.30

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Dyma ein digwyddiad blynyddol Ymwybyddiaeth o Epilepsi, a gaiff ei gynnal yn y Senedd o dan nawdd Mark Isherwood AC. Bob blwyddyn, rydym yn lobïo ein Haelodau Cynulliad i godi ymwybyddiaeth o bobl ag epilepsi ac yn gofyn am wasanaethau sy’n rhwydd i gael gafael arnynt fel bod pobl ag epilepsi yn cael y driniaeth a’r gefnogaeth gorau ar gyfer eu hanghenion. Rydym yn gwahodd unigolion a theuluoedd y mae epilepsi wedi effeithio arnynt i ddweud eu dweud, gofyn cwestiynau a rhannu eu profiadau. Rydym hefyd yn gwahodd ein Haelodau Cynulliad lleol i gymryd rhan. Os gallwch chi ddod, dewch. Byddwn yn casglu gwybodaeth i’w chyflwyno i’n Haelodau Cynulliad a chomisiynwyr Byrddau Iechyd Lleol. Os hoffech chi ddod, neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, neu os hoffech roi gwybod i ni am faterion yr hoffech inni eu codi, cysylltwch â ni drwy e-bost info@epilepsy.cymru neu drwy ffonio 0800 228 9016

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr