Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Wythnos Llundain 2018

Dyddiad: Dydd Gwener 13 Gorffennaf 2018

Amser: 10.45 - 13.30

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Mae Wythnos Llundain 2018 yn gydweithrediad rhwng y cwmni o Lundain, Judicium Education a Llywodraeth Cymru. Mae’n cynnig wythnos unwaith mewn oes o gyfleoedd profiad gwaith i grŵp o ddisgyblion ysgol sy’n weithgar, penderfynol ac uchelgeisiol. Mewn dau grŵp, mae’n rhaid i’r disgyblion ddatblygu cysyniad ar gyfer busnes Cymreig, elusen neu fenter a fydd yn arwain y byd ymhen 25 mlynedd. Ar ddiwedd yr wythnos, bydd y disgyblion yn cyflwyno eu cynlluniau busnes i banel o feirniaid gwadd ac o flaen cynulleidfa a fydd yn cynnwys eu teuluoedd, cyfeillion a staff yr ysgol.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr