Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Arddangosfa’r Awdurdod Safonau Hysbysebu – cyfle i alw heibio i drafod unrhyw gwestiynau am hysbysebion neu sut rydym yn rheoleiddio hysbysebion yng Nghymru

Dyddiad: Dydd Mawrth 17 Gorffennaf 2018

Amser: 10.00 - 15.00

Lleoliad: Oriel, Y Senedd

Disgrifiad: Yr Awdurdod Safonau Hysbysebu yw’r rheoleiddiwr hysbysebion annibynnol ar gyfer y DU a bydd gennym stondin arddangos a fydd yn gyfle i Aelodau a’u staff ddod i drafod unrhyw gwestiynau sydd ganddynt am ein rheoleiddio neu bryderon am hysbysebion y maent wedi eu gweld. Rydym wedi bod yn gweinyddu’r Cod Hysbysebion nas darlledir ers 56 mlynedd a’r Cod Hysbysebion a ddarlledir ers 14. Cafodd ein cylch gwaith ei ymestyn ymhellach yn 2011 i gynnwys hawliadau hysbysebu cwmnïau ar eu gwefannau eu hunain ac mewn lleoliadau cyfryngau cymdeithasol sydd o dan eu rheolaeth. Daw ein cefnogaeth gyfreithiol ar gyfer hysbysebion a ddarlledir gan Ofcom a’r adran Safonau Masnach ar gyfer hysbysebion eraill. Rydym yn gyfrifol am sicrhau bod hysbysebion yn gyfreithiol, yn weddus, yn ddidwyll ac yn gywir ac mae ein gwaith yn cynnwys ymgymryd â phrosiectau rhagweithiol a gweithredu ar gwynion i gymryd camau yn erbyn hysbysebion camarweiniol, niweidiol neu anweddus. Y llynedd ymdriniwyd â dros 27,000 o gwynion, gyda dros 7,000 o hysbysebion yn cael eu diwygio neu eu gwahardd. Rydym wedi ymrwymo i reoleiddio ar sail tystiolaeth ac yn adolygu tystiolaeth newydd yn barhaus er mwyn sicrhau bod y rheolau’n parhau i fod yn addas i’r diben. Mae’r meysydd rydym yn eu rheoleiddio yn cynnwys: bwyd a diodydd ysgafn sy’n llawn braster, siwgr a halen (HFSS), hapchwarae, alcohol, tybaco, band eang, danfon pecynnau ac rydym yn ymgynghori ar greu Rheol newydd yn ymwneud â stereoteipio’r rhywiau mewn hysbysebion. Yn ogystal â chael y pŵer i archwilio a gwahardd hysbysebion, rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau hyfforddiant a chyngor (y rhan fwyaf am ddim) i hysbysebwyr, asiantaethau a’r cyfryngau er mwyn eu helpu i ddeall eu cyfrifoldebau o dan y Codau a sicrhau bod llai o hysbysebion sy’n peri trafferthion yn ymddangos yn y lle cyntaf. Darparwyd dros 389,000 o ddarnau o gyngor a hyfforddiant yn 2017.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr