Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Digwyddiad i Ddathlu 25 Mlynedd ers Sefydlu Llwybrau Newydd
Dyddiad: Dydd Iau 20 Medi 2018
Amser: 09.30 - 12.30
Lleoliad: Y Pierhead
Disgrifiad: Mae Llwybrau Newydd yn dathlu 25 mlynedd o roi cefnogaeth arbenigol i ddynion, menywod a phlant y mae trais rhywiol yn effeithio arnynt. Hoffem nodi’r achlysur drwy ddathlu’r llwyddiant hwn a chroesawu staff a gwesteion allweddol i ymuno â ni. Yn y digwyddiad mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Julie James AC, Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip, yn bresennol i ddechrau’r digwyddiad gyda phrif araith. Hefyd, bydd araith gan Jackie Stamp, Prif Weithredwr Llwybrau Newydd, yn ogystal â defnyddiwr gwasanaeth a rhywun sydd wedi goroesi camdriniaeth rywiol. Hefyd, bydd cyfleoedd rhwydweithio, yn enwedig ag aelodau o staff o’r prosiectau amrywiol y mae Llwybrau Newydd yn eu cynnig.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr