Digwyddiad
ARDDANGOSFA: Prosiect Tynnu Llun Cymunedol Llinellau Arfordirol, ‘Mae pob llun yn adrodd stori’
Dyddiad: Dydd Mawrth 2 Hydref 2018 i ddydd Mawrth 23 Hydref 2018
Lleoliad: Oriel y Dyfodol, Y Pierhead
Disgrifiad: Cafodd prosiect ‘Mae pob llun yn adrodd stori’ ei lansio drwy Ŵyl y Darlun Mawr 2015. Aeth dros 800 o bobl ati i dynnu llun ardaloedd Abergwaun ac Wdig, gan greu llyfr lluniau cymunedol. O’r dramatig i’r cyffredin, o’r unigryw i’r cyfarwydd, cawsant eu hysbrydoli gan bopeth o’u cwmpas. Mewn 79 o weithdai, casglwyd dros 2000 o luniau sy’n awr wedi’u harchifo fel cofnodion o’n treftadaeth ac sy’n dangos balchder y rhai sy’n byw ar hyd arfordir gogoneddus Cymru.
Agored i’r cyhoedd: Ydy
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr