Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Mudiad Meithrin - Lansio Clwb Cwtsh

Dyddiad: Dydd Mawrth 2 Hydref 2018

Amser: 10.00 - 13.30

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Nod Mudiad Meithrin yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru elwa ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n helpu dros 22,000 o blant a'u rhieni / gofalwyr bob blwyddyn. Yn gynharach eleni, cynhaliodd Mudiad Meithrin gynllun peilot o'i fenter newydd, Clwb Cwtsh (a ariennir gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg) i ymestyn ei wasanaethau i oedolion ac annog pobl i roi cynnig ar ddysgu Cymraeg. Roedd y fenter mor llwyddiannus, gyda 800 yn cofrestru a dros 500 yn cwblhau'r cwrs. Cyflwyniad anffurfiol, wyth wythnos o hyd, i'r Gymraeg yw Clwb Cwtsh. Bydd y digwyddiad hwn yn ceisio codi proffil gwaith Mudiad Meithrin a chaiff Clwb Cwtsh ei lansio’n ffurfiol.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr