Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Prosiect Tynnu Llun Cymunedol Llinellau Arfordirol, ‘Mae pob llun yn adrodd stori’

Dyddiad: Dydd Mercher 3 Hydref 2018

Amser: 12.00 - 14.00

Lleoliad: Oriel y Dyfodol, Y Pierhead

Disgrifiad: Cafodd prosiect ‘Mae pob llun yn adrodd stori’ ei lansio drwy Ŵyl y Darlun Mawr 2015. Aeth dros 800 o bobl ati i dynnu llun ardaloedd Abergwaun ac Wdig, gan greu llyfr lluniau cymunedol. O’r dramatig i’r cyffredin, o’r unigryw i’r cyfarwydd, cawsant eu hysbrydoli gan bopeth o’u cwmpas. Mewn 79 o weithdai, casglwyd dros 2000 o luniau sy’n awr wedi’u harchifo fel cofnodion o’n treftadaeth ac sy’n dangos balchder y rhai sy’n byw ar hyd arfordir gogoneddus Cymru.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr