Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Dangos y ffilm ‘I am not a Witch’ fel rhan o ddigwyddiadau Mis Hanes Pobl Dduon Cymru 2018

Dyddiad: Dydd Mercher 17 Hydref 2018

Amser: 18.00 - 21.30

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Dangos y ffilm ‘I am not a Witch’ fel rhan o ddigwyddiadau Mis Hanes Pobl Ddu Cymru 2018. Mae’r ffilm wedi’i gosod mewn pentref pellennig yn Zambia, lle mae merch naw mlwydd oed o’r enw Margaret Mulubwa yn cael ei chyhuddo o fod yn wrach ac yn cael dewis: sef i dderbyn ei statws goruwchnaturiol a byw bywyd cywasgedig fel hudoles, neu i ddatgysylltu â’i thraddodiad lleol a chael ei thrawsnewid yn afr y gellid ei lladd a’i bwyta i swper. Felly, dyna ddechrau’r stori ryfeddol hon, gan yr awdur-gyfarwyddwr Rungano Nyoni. Cafodd Nyoni ei geni yn Zambia a threuliodd rywfaint o’i magwraeth yng Nghymru, gan gael dylanwad ryngwladol, yn gyntaf gyda ffilmiau byr fel Mwansa the Great (2011) a Listen (2014). Nawr, mae’r ddameg ddiddorol o hud a gwreig-gasineb, gorfodaeth a llymder cymdeithasol hon yn cadarnhau ei bod yn wneuthurwr ffilm ffyrnig ei gweledigaeth, ac annibynnol, sydd â dyfodol disglair o’i blaen.

Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr