Digwyddiad

ARDDANGOSFA: Mis Hanes Pobl Dduon 2018

Dyddiad: Dydd Gwener 26 Hydref 2018 i ddydd Gwener 30 Tachwedd 2018

Lleoliad: Oriel y Dyfodol, Y Pierhead

Disgrifiad: Fel rhan o'r dathlu i nodi Mis Hanes Pobl Dduon, mae'r Cynulliad yn falch o gynnal arddangosfa a gyflwynir gan Brifysgol Caerdydd a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST Cymru). Mae hanes Cymru yn un amrywiol a chyfoethog ac mae'n wlad amlddiwylliannol sy'n gartref i bobl o bob math. Yn 2018, nododd 4.7 y cant o'r boblogaeth eu bod o gefndir nad yw'n wyn, ac rydym yn falch o gymryd rhan ym Mis Hanes Pobl Dduon ac o gydnabod, dathlu a gwerthfawrogi ein cymunedau BAME a'u cyfraniad i ddatblygiad Cymru. Ieuenctid, Ymfudwyr, Cymry: dyma brosiect a guradwyd gan Dîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST Cymru) gyda'r nod o gofnodi profiadau pobl ifanc o gefndiroedd ymfudwyr sy'n tyfu lan yng Nghymru. Mae'n trafod cysyniadau perthyn, hunaniaeth ac a yw 'Cymreictod' yn gysyniad cynhwysol. Mae ganddo'r nod hefyd o ddymchwel camsyniadau ynghylch y term 'ymfudwr', gan sicrhau cyd-destun mwy cadarnhaol i'r gair na'r hyn a welir yn nisgwrs gyfredol y cyfryngau. #ItooamCardiff: dyma fenter dan arweiniad myfyrwyr sy'n amlygu wynebau a lleisiau myfyrwyr BAME (Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig) ym Mhrifysgol Caerdydd. Lansiwyd yr arddangosfa yn 2016 ac mae wedi bod ar daith ers hynny er mwyn rhoi llais i gymunedau BAME, codi ymwybyddiaeth ac ysgogi trafodaeth.

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr