Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Darlith Flynyddol Canolfan Llywodraethiant Cymru 2018
Dyddiad: Dydd Llun 10 Rhagfyr 2018
Amser: 18.00 - 20.00
Lleoliad: Y Pierhead
Disgrifiad: Bydd Michelle O’Neill MLA, Sinn Féin Leas Uachtarán (Dirprwy Arweinydd) ac arweinydd y blaid yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon, yn cyflwyno Darlith Flynyddol 2018 Canolfan Llywodraethiant Cymru eleni. Yn Aelod dros Ganol Ulster ers 2007 bu hefyd yn Weinidog Amaethyddiaeth ac yn Weinidog Iechyd yn y Weithrediaeth. Cyflwynir ei darlith ar adeg argyfyngus yn ystod proses Brexit. Mae safbwynt Sinn Féin ar Brexit a’r posibilrwydd o gael ffin galed ar ynys Iwerddon yn berthnasol dros ben i ddyfodol cyfansoddol ac economaidd Cymru, ac yn wir, i bawb ar yr ynysoedd hyn. Dyma gyfle i glywed araith gan un o wleidyddion blaengar Iwerddon a dylai pawb fanteisio ar y cyfle i’w chlywed. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu gwesteion i’r Pierhead ym Mae Caerdydd ddydd Llun 10 Rhagfyr am 18:00.
Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr