Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Ymateb Cymru i’r diwydiant canabis cyfreithlon sydd ar y gorwel.

Dyddiad: Dydd Mawrth 8 Ionawr 2019

Amser: 18.00 - 20.00

Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd

Disgrifiad: Mae’r byd yn symud tuag at farchnad ganabis sy’n cael ei rheoleiddio. Mae bron pob gwlad Ewropeaidd a holl gyfandir America wedi rhoi cyfle i bobl ddefnyddio canabis meddyginiaethol. Mae cynhyrchu a defnyddio canabis gan oedolion wedi cael ei reoleiddio, neu o leiaf wedi cael ei ddad-droseddu, gan lawer. Yn y deunaw mis nesaf, bydd newid sylweddol yn y DU yn y maes polisi hwn. Mae iechyd yn fater sydd wedi’i ddatganoli’n llwyr, ynghyd â datblygu economaidd. Mae’n hollbwysig fod Cymru yn datblygu ymateb a strategaethau cenedlaethol er mwyn iddi addasu i’r newid sydd ar y gorwel; gwneud y mwyaf o’r manteision i economi Cymru, gwella ansawdd bywyd ei phobl, a sicrhau ei bod yn gweithredu trefniant sydd orau ar gyfer Cymru.

Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr