Digwyddiad

DIGWYDDIAD: I lansio’r AGENDA Cynradd

Dyddiad: Dydd Mawrth 19 Mawrth 2019

Amser: 18.00 - 20.00

Lleoliad: y Pierhead

Disgrifiad: Mae’r AGENDA Cynradd yn adnodd ar gyfer ymarferwyr addysgol sydd am gefnogi plant (8-11 mlwydd oed) i lunio perthnasoedd positif yn eu hysgol a'u cymuned. Drwy weithgareddau cychwynnol ac astudiaethau achos, mae’r AGENDA Cynradd yn gwahodd ymarferwyr i edrych yn fanwl ar ddulliau cynhwysol, dulliau creadigol a dulliau sydd wedi’u seilio ar hawliau o ymdrin ag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys: Teimladau ac emosiynau, Cyfeillgarwch, Delwedd y corff, Ymreolaeth gorfforol, Caniatâd, normau o ran rhywedd yn ein cymdeithas, Cydraddoldeb rhywiol ac ecwiti o ran rhywedd, hawliau o ran rhywedd a rhywioldeb, bwlio sy’n seiliedig ar ragfarn. Mae’r AGENDA Cynradd yn brosiect cydweithredol a arweinir gan yr Athro Emma Renold ym Mhrifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth â NSPCC Cymru a Chymorth i Fenywod Cymru, gyda chymorth Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru.

Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr