Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Lansio Gwobrau Arwain Cymru

Dyddiad: Dydd Llun 29 Ebrill 2019

Amser: 14.30 - 16.30

Lleoliad: y Pierhead

Disgrifiad: Gwobrau Arwain Cymru yw'r unig wobrau arweinyddiaeth dynodedig yng Nghymru, ac maent yn chwilio am unigolion (ym mhob sector ac ar bob lefel o gyfrifoldeb ledled Cymru) y mae eu harweinyddiaeth yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yng Nghymru. Mae Gwobrau Arwain Cymru 2019 yn cydweithio ag Engage for Success Cymru i chwilio am sgiliau arweinyddiaeth dewr, ysbrydoledig a diddorol sy'n gweddnewid sut y byddwn yn cydweithio, o dan y thema “Her i Arwain”.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr