Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Diwrnod Codi Ymwybyddiaeth o Glefyd Llid y Coluddyn (IBD)

Dyddiad: Dydd Mercher 15 Mai 2019

Amser: 12.00 - 16.30

Lleoliad: Yr Oriel, y Senedd

Disgrifiad: Dyma un mewn cyfres o ddigwyddiadau a gynhelir ar draws y byd yn ystod yr wythnos cyn Diwrnod Codi Ymwybyddiaeth Clefyd Llid y Coluddyn (IBD) y Byd ar 19 Mai. Cynlluniwyd y digwyddiad i godi proffil IBD, sef ystod o gyflyrau gydol oes sy’n effeithio ar dros 15,000 o bobl yng Nghymru a dros 300,000 ledled y DU. Mae staff y GIG yng Nghymru yn awyddus i ddarparu’r cymorth gorau i blant ac oedolion sydd ag IBD yng Nghymru. Er hynny, mae rhai gwasanaethau yma ar ei hôl hi o’u cymharu ag ardaloedd eraill y DU, felly, mae clinigwyr, llawfeddygon, nyrsys a meddygon teulu wedi dod at ei gilydd o dan faner ‘IBD Cymru’ i helpu i ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau ysbyty ac yn y gymuned yn unol â safonau IBD presennol y DU. Er mwyn codi proffil IBD, gwahoddir Aelodau’r Cynulliad i sesiwn yn ystod amser cinio lle y bydd clinigwyr a chleifion wrth law i esbonio pwysigrwydd diagnosis cynnar, triniaeth, a chymorth parhaus gan y gymuned a sut y gall ymyrraeth o’r fath wella bywyd claf yn sylweddol yn ogystal ag arbed arian i’r GIG.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr