Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Lansiad Siarter dros Newid Cymru

Dyddiad: Dydd Mercher 5 Mehefin 2019

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Lansiad Cymru o’r Siarter ar gyfer Newid, Galw Amser. Bydd grŵp eirioli Yfed Doeth, Heneiddio’n Dda, sy’n cynnwys cyfranogwyr sydd â phrofiad byw, yn cyflwyno eu Siarter ar gyfer Newid. Bydd yn cynnwys ‘galwadau’ allweddol i fynd i’r afael ag anghenion oedolion hŷn y mae alcohol wedi effeithio arnynt. Credwn fod gan bawb hawl dynol i heneiddio’n dda a chydag urddas. Dylai oedolion hŷn allu byw’r bywyd gorau posibl yn rhydd o’r effeithiau negyddol a’r niwed a achosir gan alcohol. Dylai gwybodaeth ffeithiol a chredadwy am alcohol fod ar gael i bawb wrth iddynt fynd yn hŷn. Rhaid i gefnogaeth a thriniaethau alcohol fod ar gael yn hawdd i bob oed.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr