Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Dathlu Band A Rhaglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif
Dyddiad: Dydd Gwener 7 Mehefin 2019
Amser: 13.45 - 16.00
Lleoliad: Y Pierhead
Disgrifiad: Bydd Band A Rhaglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif yn dod i ben fis Ebrill 2019 wedi i Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid fuddsoddi cyfanswm o £1.4 biliwn i ariannu 170 o brosiectau yn ystod y pedair blynedd gyntaf. I ddathlu llwyddiant Band A, ac i lansio Band B yn swyddogol, hoffai Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, gynnal digwyddiad yn y Senedd. Hoffai’r Gweinidog wahodd disgyblion ac athrawon o’r ysgolion hynny a gafodd gyllid i ddod i’r digwyddiad er mwyn clywed sut y mae’r arian wedi gwneud gwahaniaeth.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr