Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Yr hawl dynol i dŷ

Dyddiad: Dydd Mawrth 18 Mehefin 2019

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Mae trafodaethau yn parhau â Llywodraeth Cymru ynghylch ymchwilio i hawliau dynol gyda’r bwriad o’u diogelu a’u gwella yng Nghymru, ac ategwyd hyn mewn areithiau gan Julie James AC a Jeremy Miles AC. Rydym ni (Tai Pawb, Shelter Cymru, a CIH Cymru) wedi cael ein comisiynu ar y cyd gan Brifysgol Abertawe i edrych ar natur bosibl yr hawl dynol i dŷ yng Nghymru a’r ffordd orau i sicrhau effaith hyn yng Nghymru. Bydd papur ymchwil Dr Simon Hoffman yn cael ei gyhoeddi yn rhan o’r digwyddiad.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr