Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Llais Plentyn

Dyddiad: Dydd Mercher 19 Mehefin 2019

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Trafodaeth wedi’i chadeirio gan Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru. Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yw'r cytundeb hawliau dynol sydd wedi'i gadarnhau fwyaf yn y byd, ac fel cwmni sy'n gweithio cymaint â phlant, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn falch o gefnogi a hwyluso'r drafodaeth hon. Er mwyn nodi 30 mlynedd ers sefydlu’r Confensiwn a chyfarfod cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru, rydym yn archwilio'r rôl y mae pobl ifanc yn ei chwarae mewn democratiaeth, a’r camau a gymerir yng Nghymru i sicrhau bod safbwyntiau pobl ifanc yn cael eu clywed, yn unol ag Erthygl 12. Mae’r siaradwyr a gadarnhawyd yn cynnwys: Sarah Hooke (Unicef), Mia Thorne (o’r Panel Ymgynghorol Pobl Ifanc, Comisiynydd Plant Cymru), Naz Ismail (o'r Panel Ymgynghorol Pobl Ifanc, Comisiynydd Plant Cymru), Ffion-Hâf Davies (Senedd Ieuenctid Cymru) a rhagor o enwau i ddilyn. Partneriaid Cefnogol: Comisiynydd Plant Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Unicef

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr