Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Lles Anifeiliaid: y Ddadl Fawr

Dyddiad: Dydd Gwener 21 Mehefin 2019

Amser: 09.30 - 15.00

Lleoliad: Siambr Hywel, Ty Hywel

Disgrifiad: Ers 2015, mae RSPCA Cymru wedi cynnal y digwyddiad hwn, sef 'Lles Anifeiliaid: y Ddadl Fawr' gyda myfyrwyr cyfnod allweddol 3 o ysgolion ledled Cymru. Bydd myfyrwyr rhwng 11 a 14 oed o ysgolion ledled y wlad yn trafod pynciau arbennig yn ymwneud â materion lles anifeiliaid. Rhennir y pynciau hyn â'r ysgolion sy'n cymryd rhan ymlaen llaw, a hynny er mwyn iddynt ymchwilio a pharatoi eu dadleuon. Yna, bydd yr ysgolion hynny sy'n ennill lle yn y rownd derfynol yn trafod y cwestiwn 'Cyfrifoldeb pwy yw Lles Anifeiliaid?' Byddant yn pwyso a mesur cyfrifoldebau'r gwahanol asiantaethau dan sylw, sef y Llywodraethau yng Nghymru a Lloegr, llywodraeth leol, yr RSPCA, milfeddygon, yr heddlu a'r cyhoedd.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr