Digwyddiad

DIGWYDDIAD: EurVoice Caerdydd 2019

Dyddiad: Dydd Iau 4 Gorffennaf 2019

Amser: 10.00 - 15.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Mae EurVoice yn gyfle unigryw a gynigir gan Senedd Ieuenctid Ewrop y DU sy’n ymgorffori ei werthoedd craidd yn benodol – cyfle i newid er gwell y materion sy’n bwysig i chi, cynhwysiant i bawb, ac achlysur i glywed barn angerddol pobl eraill. Mae’r digwyddiad yn cynnwys panel yn arddull ‘Question Time’, gweithdai ac amser i drafod. Wedi’i gydgysylltu a’i redeg gan fyfyrwyr ledled y DU, mae’r digwyddiad yn cynnig llwyfan rhyngweithiol i ehangu ymwybyddiaeth pobl ifanc o fewn eu hardal leol a dealltwriaeth o’r heriau cymhleth sy’n ein hwynebu heddiw.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr