Digwyddiad

ARDDANGOSFA: Nifer o Leisiau, Un Genedl

Dyddiad: Dydd Iau 5 Medi 2019 i ddydd Sul 29 Medi 2019

Lleoliad: Y Oriel, Y Senedd

Disgrifiad: Arddangosfa sy’n archwilio'r gobeithion a'r dyheadau ar gyfer dyfodol Cymru yw Nifer o Leisiau, Un Genedl. Comisiynwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Ffotogallery ac mae’n rhan o'r rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau trwy gydol 2019 i nodi'r 20 mlynedd gyntaf o ddatganoli yng Nghymru. Mae arddangosfa ‘Nifer o Leisiau, Un Genedl’ yn cychwyn ei thaith yn y Senedd, sef canolfan democratiaeth a datganoli yng Nghymru, cyn iddi ymweld â gwahanol leoliadau ledled Cymru rhwng mis Hydref 2019 a mis Mehefin 2020.

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr