Digwyddiad

ARDDANGOSFA: Sgwneri o Lydaw yn Nociau Caerdydd

Dyddiad: Dydd Mercher 7 Awst 2019 i ddydd Mawrth 24 Medi 2019

Lleoliad: Pierhead, Oriel y Dyfodol

Disgrifiad: Wrth weithio yn swyddfeydd cwmni llongau treillio pysgota ei deulu, gallai’r llanc Jack K Neale weld y cychod hwylio urddasol Llydewig yn cyrraedd ac yn gadael Doc Bute Gorllewin Caerdydd. Roedd yn hoffi eu llinellau prydferth a’u perfformiadau nodedig a dechreuodd dynnu ffotograffau ohonynt yn rheolaidd. Mae’r ffotograffau du a gwyn hyn yn adrodd stori’r llongwyr a oedd yn cludo pyst pwll, llysiau a ‘Sionis winwns’ ar eu ffordd i mewn ac yn ddieithriad yn dychwelyd i Lydaw â glo o byllau De Cymru. Mewn tywydd garw, ni fyddai rhai byth yn dychwelyd a byddent yn cael eu rhwygo’n llarpiau ar arfordir peryglus De Cymru.

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr