Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Lansiad Adnodd Braenaru ADY Addysg Bellach Ar-lein

Dyddiad: Dydd Iau 11 Gorffennaf 2019

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Digwyddiad i lansio gwefan a hwb adnoddau Ar-lein Braenaru ADY Addysg Bellach Consortiwm Canolbarth y De, sef prosiect ar y cyd rhwng Coleg Penybont, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Merthyr Tudful, a Choleg y Cymoedd, a ariannwyd gan grant trawsnewid rhanbarthol ADY Llywodraeth Cymru. Mae’r adnodd yn blatfform ar-lein i bobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, eu rhieni/gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol sy’n cynnwys adnoddau rhyngweithiol, astudiaethau achos fideo, a chlipiau fideo byr yn ymwneud ag elfennau allweddol y cyfnod pontio i Goleg Addysg Bellach. Mae’r pynciau yn cynnwys 'Bywyd yn y coleg', 'Pa gefnogaeth fydda i’n ei chael?’ a 'Pontio'. Mae ‘esboniwr jargon’ a blogiau gwadd ar y wefan hefyd.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr