Digwyddiad

ARDDANGOSFA: O waelod y pwll glo i Dŷ’r Cyffredin - Vernon Hartshorn OBE AS

Dyddiad: Dydd Sadwrn 5 Hydref 2019 i ddydd Iau 21 Tachwedd 2019

Lleoliad: Y Oriel, Y Senedd

Disgrifiad: Mae Amgueddfa Glowyr De Cymru yn cyflwyno 'O waelod y pwll glo i Dŷ'r Cyffredin', sef arddangosfa am y diweddar Vernon Hartshorn OBE AS. Yn undebwr llafur a gwleidydd Llafur cynnar, brwydrai Hartshorn yn ddiflino i wella bywydau gwaith ac amodau'r glowyr a'u teuluoedd, ond mae'r cof amdano wedi pylu gydag amser. Ef oedd y glöwr cyntaf o Gymru i ddod yn Weinidog Cabinet yn ystod cythrwfl dechrau’r 20fed ganrif, ac mae'r arddangosfa hon yn ymdrin â hanes Hartshorn o fod yn löwr bach i arweinydd glowyr a gwleidydd.

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr