Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Digwyddiad Lansio: O waelod y pwll glo i Dŷ’r Cyffredin - Vernon Hartshorn OBE AS

Dyddiad: Dydd Llun 7 Hydref 2019

Amser: 10.00 - 15.00

Lleoliad: Y Oriel, Y Senedd

Disgrifiad: Mae Amgueddfa Glowyr De Cymru yn cyflwyno 'O waelod y pwll glo i Dŷ'r Cyffredin', sef arddangosfa am y diweddar Vernon Hartshorn OBE AS. Yn undebwr llafur a gwleidydd Llafur cynnar, brwydrai Hartshorn yn ddiflino i wella bywydau gwaith ac amodau'r glowyr a'u teuluoedd, ond mae'r cof amdano wedi pylu gydag amser. Ef oedd y glöwr cyntaf o Gymru i ddod yn Weinidog Cabinet yn ystod cythrwfl dechrau’r 20fed ganrif, ac mae'r arddangosfa hon yn ymdrin â hanes Hartshorn o fod yn löwr bach i arweinydd glowyr a gwleidydd.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr