Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Lansio “Write on Cardiff”, casgliad o straeon a darnau o farddoniaeth am Gaerdydd

Dyddiad: Dydd Mawrth 8 Hydref 2019

Amser: 18.00 - 20.00

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Mae Cardiff Writers’ Circle wedi gweithio i ddatblygu ac arddangos ei waith drwy gyhoeddi “Write on Cardiff”, sef casgliad o straeon byr a darnau o farddoniaeth yn ymwneud â Chaerdydd. Sefydlwyd Cardiff Writers’ Circle 72 mlynedd yn ôl, a chredir mai dyma’r grŵp hwy o’i fath sydd wedi parhau i gael ei gynnal yng Nghymru. Mae gan y grŵp dros 25 o aelodau rhwng 17 a 70 mlwydd oed, ac maent yn cwrdd bob dydd Llun yn y YMCA ar Stryd Shakespeare yng Nghaerdydd.

Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr