Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Dangosiad Ffilm “Akasha”

Dyddiad: Dydd Iau 10 Hydref 2019

Amser: 18.00 - 20.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Chwyldroadwr o Sudan yw Adnan sy'n cael ei ystyried yn arwr rhyfel. Mae ei gariad at ei reiffl AK47 yn cyfateb yn unig i'w deimladau tuag at Lina, ei gariad hir-ddioddefus. Pan fydd Adnan yn hwyr i ddychwelyd i'w uned filwrol ar ôl ei wyliau, mae rheolwr y fyddin, Blues, yn lansio kasha: sef casglu milwyr triwant ynghyd a’u harestio. Mae Adnan bron â chael ei ddal ac mae’n rhedeg i ffwrdd gyda'r heddychwr, Absi. Mae'r ddau ffrind annhebygol yn cynllwynio ffyrdd i aduno Adnan gyda'i wn – a gyda Lina – wrth iddynt osgoi eu cyd-filwyr. Drwy gyfres o ddigwyddiadau dig a doniol dros 24 awr, rydym yn edrych yn fanwl ar fywyd ac ideoleg mewn ardaloedd o Sudan a gafodd eu caethiwo gan wrthryfelwyr.

Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr