Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Gweithwyr hŷn ym Mhrydain Fawr: Safbwyntiau o’r cenhedloedd datganoledig.

Dyddiad: Dydd Mawrth 15 Hydref 2019

Amser: 13.00 - 16.15

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Mae gweithlu Prydain Fawr yn heneiddio. Erbyn 2030 bydd mwy na thraean yr holl weithwyr yn 50 oed neu'n hŷn. Mewn ymateb, mae gan lywodraeth y DU nifer o bolisïau i annog pobl i aros mewn gwaith am gyfnod hirach, er hynny, mae pryderon nad yw polisïau a wnaed yn San Steffan yn ystyried yr heriau sy'n wynebu'r cenhedloedd datganoledig. Ar ben hynny, mae lefel a chyfradd heneiddio’r gweithlu yn wahanol ar draws 4 cenedl Prydain Fawr, hefyd, mae pob un o wledydd cyfansoddol Prydain Fawr yn wynebu heriau penodol o ganlyniad i’w hanesion diwydiannol a’u daearyddiaeth unigryw. Mae'n annhebygol y bydd un polisi sy’n addas i bawb i ymdopi â'r heriau a gwireddu cyfleoedd heneiddio gweithlu yn llwyddiannus, ac felly mae angen syniad gwell o'r heriau penodol y mae gweithwyr hŷn, cyflogwyr a llunwyr polisi yn eu hwynebu ym mhob un o'r gwledydd datganoledig. Drwy wneud hyn bydd cyfleoedd hefyd i rannu arfer gorau a dysgu o ddatblygiadau arloesol mewn mannau eraill ym Mhrydain Fawr. Bydd y gynhadledd hanner diwrnod hon yn dwyn ynghyd ymchwilwyr blaenllaw ar weithwyr hŷn o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i rannu'r profiadau a'r ymatebion i weithlu sy'n heneiddio ym mhob un o'u gwledydd. Edrychwn ymlaen at groesawu gwesteion i’r Pierhead ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth, 15 Hydref am 13:00.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros ar agor i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr