Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Lansio’r Wythnos Cyflog Byw

Dyddiad: Dydd Llun 11 Tachwedd 2019

Amser: 08.00 - 11.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Mae lansiad yr Wythnos Cyflog Byw yn ddigwyddiad blynyddol lle mae’r Prif Weinidog yn cyhoeddi’r gyfradd newydd ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod sydd wedi’i chyfrifo i gynnwys gwir gostau byw am y flwyddyn honno. Mae hefyd yn gyfle i gyflogwyr achrededig ddathlu eu cyflawniadau a chlywed gan rai siaradwyr arbenigol ar fuddion economaidd a chymdeithasol y Cyflog Byw gwirioneddol a straeon ysbrydoledig gan gyflogwyr sydd newydd eu hachredu.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr