Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Brecwast Lles Dynion

Dyddiad: Dydd Mawrth 19 Tachwedd 2019

Amser: 09.00 - 12.30

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Fel rhan o gefnogaeth barhaus y Comisiwn i iechyd a lles ei staff, ym mis Tachwedd byddwn yn edrych ar Iechyd Dynion. Ddydd Mawrth 19 Tachwedd byddwn yn cynnal digwyddiad brecwast iechyd i ddynion. Yn rhan o’r digwyddiad bydd trafodaeth banel ac yna sesiwn holi ac ateb. Ar y panel bydd James Downs, ymgyrchydd iechyd meddwl ac anhwylder bwyta; Phil Steele, sylwebydd radio a rygbi ar BBC Wales; a Bleddyn Harris, Swyddog Sefydliadol a Datblygu a chyd-gadeirydd Rhwydwaith LGBT Cynulliad OUTNAW. Cadeirydd y panel fydd Peter Johnson, cyn-gyflwynydd BBC Radio Wales.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr