Digwyddiad

DIGWYDDIAD: TAITH - Dathlu partneriaeth 20 mlynedd

Dyddiad: Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2019

Amser: 18.00 - 20.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Mae’r gwasanaeth TAITH sy’n darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc sy’n dangos ymddygiad rhywiol niweidiol wedi bod yn gweithredu ers 20 mlynedd fel partneriaeth ar draws nifer o awdurdodau, cyrff cyhoeddus a gwasanaethau. Yn ystod yr 20 mlynedd hynny, dysgwyd llawer yn y maes hwn a natur gydgyfeiriol materion sy’n ymwneud ag ymddygiadau niweidiol a chamfanteisio rhywiol. Mae TAITH a Seraf, y chwaer-wasanaeth, wedi cysoni â Dyfodol Gwell ar eu gwaith therapiwtig, yn ogystal â phrosiectau ymchwil arwyddocaol ynghylch realiti merched yn dangos ymddygiadau niweidiol a bechgyn a dynion ifanc sy’n dioddef o gamfanteisio. Yn ogystal â chydnabod 20 mlynedd o wasanaeth, cryfder partneriaethau, pwysigrwydd y digwyddiad hwn yw cydnabod rôl pobl ifanc y mae’r materion hyn yn effeithio arnynt wrth eirioli newid.

Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr