Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Cynllun Mentora Llwybrau BAME i mewn i Fywyd Cyhoeddus – ‘gwleidyddiaeth a dylanwadu yng Nghymru’

Dyddiad: Dydd Mawrth 14 Ionawr 2020

Amser: 10.00 - 15.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Bydd Cynllun Mentora Llwybrau BAME i mewn i Fywyd Cyhoeddus yn ffordd i bobl leiafrif ethnig/BAME ddatblygu sgiliau gwleidyddol a chreu mwy o effaith ar fywyd cyhoeddus. Mae’r cynllun yn cynnwys mentora un i un gyda phobl ddylanwadol iawn yn ogystal â sesiynau hyfforddi pwrpasol mewn lleoliadau Llywodraeth Cymru. Cynhelir y digwyddiad hwn i lansio’r cynllun, a bydd yn gyfle i fentoriaid a menteion gwrdd am y tro cyntaf. Bydd hefyd yn rhoi trosolwg o gyflwr cydraddoldeb yn sector cyhoeddus a gwleidyddol Cymru, gan dynnu sylw at y gwahanol fathau o help i fynd i mewn i fywyd cyhoeddus.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr